Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4
Dyddiad: Dydd Iau, 13 Hydref 2022
Amser:
09.30 -
12.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12989
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Sioned Williams AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Efa Gruffudd Jones, Preferred candidate for the role of Welsh Language Commissioner Angharad Morgan, Mudiad Meithrin Aled Jones-Griffith, Coleg Meirion Dwyfor Dafydd Trystan, Coleg Cymraeg Cenedlaethol Darren Price, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Meinir Ebbsworth, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Llinos Madeley (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Andrea Storer (Ysgrifenyddiaeth) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Davies Osian Bowyer (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Yng ngyfarfod y Pwyllgor ar 6 Hydref, cafodd Alun Davies AS ei ethol yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y pedair eitem gyntaf a fyddai’n cael eu trafod yn y cyfarfod heddiw. Nododd y Cadeirydd dros dro fod ymddiheuriadau wedi dod i law ar gyfer yr eitemau hyn gan Laura Ann Jones AS a Heledd Fychan AS. Roedd y ddwy wedi bod yn rhan o'r panel recriwtio ar gyfer y swydd, ac felly wedi cytuno na ddylent fod yn bresennol ar gyfer eitemau'n ymwneud â'r gwrandawiad cyn penodi. Roedd Sioned Williams AS yn dirprwyo.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd dros dro’r Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Carolyn Thomas AS.
2 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer y rôl Comisiynydd y Gymraeg: Sesiwn dystiolaeth gyda’r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru
2.1 Bu’r Pwyllgor yn cynnal gwaith craffu ar yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 4, 7 ac eitem 8
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Ôl-drafodaeth breifat
4.1 Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn gyda'r ymgeisydd a ffefrir.
4.2 Oherwydd amserlenni ar gyfer cyflwyno adroddiadau, cytunodd yr Aelodau i ystyried yr adroddiad ar y gwrandawiad cyn penodi, a chytuno arno, yn electronig. Caiff yr adroddiad ei osod ddechrau’r wythnos nesaf.
5 Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Sesiwn dystiolaeth gyda darparwyr addysg cyfrwng Cymraeg ym meysydd y blynyddoedd cynnar, ôl-16 ac addysg oedolion
5.1 Dychwelodd Delyth Jewell AS i’r Gadair am weddill y cyfarfod a diolchodd i Alun Davies AS am gadeirio’r cyfarfod yn ystod y pedair eitem gyntaf. Ymunodd Heledd Fychan AS â’r cyfarfod.
5.2 Estynnodd y Cadeirydd groeso arbennig i Sioned Williams AS a Buffy Williams AS o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a oedd yn bresennol i drafod yr ymchwiliad ar y cyd i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
5.3 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Mudiad Meithrin; Colegau Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
6 Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr llywodraeth leol.
7 Ôl-drafodaeth breifat
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5 a 6.
8 Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon
8.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon.
8.2 Trafododd yr Aelodau’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau.